CROESO I GAFFI SÏO

… Caffi Diwylliannol newydd ym Mae Caerdydd, wedi'i gyflwyno gan Chapter.

Bydd ymwelwyr rheolaidd â Chapter yn gwybod ein bod mor enwog am ein caffi ag
yr ydym am ein diwylliant. Mae ‘Sïo’, sy’n cyfeirio at sŵn sisial gwenyn, yn enw addas iawn
yn ein barn ni am gaffi artisan mewn lleoliad cyfoes, creadigol ac egnïol.